Logos Multilingual Portal

Select Language



[ No Biography for this Author ]

am na wyddai i ble \'roedd yn mynd y llwyddodd y ddynoliaeth i gael hyd i\'w llwybr
anfantais fawr y dyddiau hyn yw bod wedi eich magu\'n dda, oherwydd mae\'n eich cau allan o gynifer o bethau
Barn y Cyhoedd...ymgais i drefnu anwybodaeth y gymuned, ac i\'w dyrchafu i urddas grym ffisegol
chwaeth syml sydd gen i. Byddaf wastad yn fodlon ar y gorau
cyfrinach dedwyddwch yw ildio i demtasiynau
dim ond ar bethau nad oes gan ddyn ddiddordeb ynddynt y mae modd rhoi barn wir ddiduedd; diau mai dyna paham y mae barn ddiduedd wastad yn gwbl ddi-werth
dim ond enw a roddwn ar ein camgymeriadau yw profiad
dim ond gwella rhywun sydd ei eisiau er mwyn ei ddifetha
dwy\' i ddim yn ddigon ifanc i wybod pob dim
dylai dyn wastad chwarae\'n deg... pan fydd yn siŵr o ennill y gêm
dylai dyn wastad fod mewn cariad. Dyna paham na ddylid byth briodi
dyletswydd yw\'r hyn a ddisgwylir gan eraill
fel arfer, fe ddyweda\' i\'r hyn \'rwy\' i\'n ei gredu mewn gwirionedd. Y dyddiau hyn, fodd bynnag, camgymeriad dybryd yw hwn, gan fod perygl i ddyn gael ei gamddeall
gall unrhyw un gydymdeimlo â dioddefaint ffrind, ond mae gofyn natur hynaws iawn i gydymdeimlo â llwyddiant ffrind
gallaf ddioddef nerth bôn braich, ond mae rhesymu bôn braich yn annioddefol
gwaith yw\'r lloches i bobl nad oes ganddynt ddim gwell i\'w wneud
maddeuwch i\'ch gelynion bob amser; nid oes dim sy\'n codi eu gwrychyn cymaint
mae dyn yn greadur rhesymegol a fydd wastad yn colli ei dymer os gofynnir iddo ymddwyn mewn ffordd sy\'n unol â gofynion rheswm
mae gan bobl ryw chwilfrydedd anniwall i wybod pob dim ond yr hyn sy\'n werth ei wybod
mae llawer o bethau y byddem yn eu lluchio, pe na baem yn ofni y byddai rhywun arall yn eu codi
mae merched yn ein caru ni oherwydd ein diffygion. Os oes gennym ddigon, gwnânt faddau rhywbeth inni, hyd yn oed ein deallusrwydd anferthol
mae pobl ifainc heddiw yn tybio mai arian yw popeth, ac wedi iddynt heneiddio, gwyddant mai felly y mae
mae popeth yn beryglus. Pe na buasai, ni byddai bywyd yn werth ei fyw
mae\'r gwewyr meddwl hwn yn ofnadwy... Gobeithio y gwneith bara!
mewn materion o bwys mawr, arddull, nid diffuantrwydd, yw\'r peth hanfodol
nid dall yw cariad, ond pellweledol; y prawf yw ei fod yn dechrau gweld y diffygion wrth iddynt raddol bellhau
nid hunanoldeb yw byw fel y mynnwch, ond gofyn i eraill fyw fel y mynnwch
nid oes dim byd tebyg i ymroddiad gwraig briod. Dyna rywbeth na ŵyr yr un gŵr priod ddim amdano
nid oes ond un peth yn y byd sy\'n waeth na bod pobl yn siarad amdanoch chi, sef nad yw pobl ddim yn siarad amdanoch chi
o! peidiwch â defnyddio geiriau mawr. Maen nhw\'n golygu cyn lleied
os ydych am wybod beth mae gwraig yn ei feddwl mewn gwirionedd, edrychwch arni; peidiwch â gwrando arni
paid byth ag egluro. Fydd dim angen eglurhad ar dy gyfeillion, a fydd dy elynion ddim yn dy gredu beth bynnag
pan ddewisa\'r duwiau ein cosbi, dim ond ateb ein gweddïau a wnânt
pesimist: rhywun, pan gaiff ddewis rhwng dau ddrwg, sydd yn dewis y ddau
peth i\'w edmygu yw addysg, ond mae\'n dda cofio, o bryd i\'w gilydd, na all athro ddysgu dim sy\'n werth ei wybod
pryd bynnag y bydd pobl yn cytuno â mi, ’rwy\'n teimlo ei bod yn rhaid fy mod yn anghywir
pwy, wrth gael ei garu, sy\'n dlawd?
rhaid inni fod yn wylaidd, a sylweddoli ar yr un pryd fod eraill yn israddol inni
rhennir pobl yn ddwy garfan: y cyfiawn a\'r anghyfiawn. Y rhai cyfiawn sy\'n eu rhannu
rwy\' i\'n dwlu ar bleidiau gwleidyddol; yr unig fan ar ôl inni lle nad oes sôn am wleidyddiaeth
sigarét yw\'r math perffaith o bleser. Mae\'n berlesmeiriol, ac yn gadael dyn heb ei ddiwallu. Beth arall y gellid gofyn amdano?
tra ystyrir mai drygioni yw rhyfel, bydd yn dal i gyfareddu. Pan edrychir arno fel rhywbeth cyffredin, bydd yn peidio â bod yn boblogaidd
trychinebus mewn ffordd yw gwybod bod dyn, cyn gynted ag y dyfeisiodd beiriant i wneud ei waith, wedi dechrau llwgu
weithiau gallwn dreulio blynyddoedd heb fyw o gwbl, ac yn sydyn caiff ein bywyd i gyd ei ganolbwyntio mewn un ennyd yn unig
y dyddiau hyn y mae gennym bob dim yn gyffredin ag America, ar wahân i\'r iaith, wrth gwrs
y dyddiau hyn, mae\'n wir ddychrynllyd y ffordd mae pobl, y tu ôl i gefn dyn, yn dweud pethau sydd yn hollol wir
yn aml, gwir fywyd dyn yw\'r bywyd nad yw\'n ei fyw
yn y byd hwn, dwy drasiedi yn unig sydd: y naill yw peidio â chael yr hyn a chenychir, a\'r llall yw ei gael
yn yr ymennydd y digwydd pethau mawr y byd
yr unig genhadaeth sydd gan y dosbarth gweithiol yw bod yn siampl dda
\'rwy\' i\'n hoffi siarad. Yn aml, bydda\' i\'n siarad â mi fy hun, dim ond er mwyn fy nghlywed fy hun yn siarad. Weithiau, \'rwy\' i mor glyfar fel nad wy\' i hyd yn oed yn deall beth \'rwy\' i wedi ei ddweud
‘rwyf wrth fy modd gyda dynion dros eu deg a thrigain, maent wastad yn cynnig cariad am oes